Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Côr A (Cyfanswm: 49)

 
(0, 1) 463 Rhydd i bob dyn ei farn,
(0, 1) 464 Ac i bob barn ei llafar.
(0, 1) 465 Clywsom eiriau Cleon a'i addewid gwag,
(0, 1) 466 Sydd inni, bellach, o'i ail-adrodd fynych dro
(0, 1) 467 Yn ddincod ar y dannedd.
(0, 1) 468 Tyrd, Cadmos, be sy gennyt ti i'w ddweud?
(0, 1) 469 Beth yw dy neges di i Athen?
 
(0, 1) 535 Be ddwedodd o — Socrates yn y Ddalfa?
(0, 1) 536 Wel, a bod yn hollol onest,
(0, 1) 537 Dyw hynna ddim yn syndod inni.
(0, 1) 538 Wedi'r cyfan, dyn peryglus ydy o — eithafwr,
(0, 1) 539 Sy'n arwain ein ieuenctid ar ddisberod
(0, 1) 540 A mwydro eu meddyliau â'i syniadau od.
(0, 1) 541 Fe fydd yn ddiogel yn y carchar: dyna'r lle
(0, 1) 542 I ddysgu'r wers fod ufuddhau a chydymffurfio llwyr
(0, 1) 543 Yn bwysig mewn cymdeithas.
 
(0, 3) 1978 Wedi'r cyfan, beth sydd a wnelom ni ag Athen?
(0, 3) 1979 Paham y dylem yma yn ein bythol hedd
(0, 3) 1980 Roi heibio ein hysbrydol ddiddordebau;
(0, 3) 1981 Ein breiniol, ddyrchafedig fyfyrdodau
(0, 3) 1982 Er mwyn ymboeni â bawaidd hynt a helynt
(0, 3) 1983 Y truan hwn a'i debyg?
 
(0, 3) 2056 Fel y dywedaist, Plwton, cawsom gan y Gwrol Rai
(0, 3) 2057 Dderbyniad rhwydd a phob cwrteisi;
(0, 3) 2058 Cyn rhoi yn gryno ger eu bron
(0, 3) 2059 Ddiffuant gais Dionysos.
(0, 3) 2060 Yna rôl iddynt ymneilltuo dro
(0, 3) 2061 I ymgynghori'n ddwys a phwyllog drin a thrafod,
(0, 3) 2062 Fe gawsom ganddynt, toc, ddatganiad fel a ganlyn:
(0, 3) 2063 "Gwerthfawrogwn daerni ple Dionysos,
(0, 3) 2064 Anrhydedd inni oedd ei dderbyn.
(0, 3) 2065 Eto i gyd, nid yw ein gallu, gwaetha'r modd
(0, 3) 2066 Yn llawn gymhesur â'i fawr hyder ynom.
(0, 3) 2067 Ond gwyddom a deallwn yn rhy dda
(0, 3) 2068 Pa bryder a'i cymhellodd.
(0, 3) 2069 Mae cyflwr Athen a'i hargyfwng trist
(0, 3) 2070 Yn loes i ninnau hefyd.
(0, 3) 2071 Ond ofer fyddai inni fynd yn ôl
(0, 3) 2072 I geisio'i hysbrydoli. Ni allem ychwanegu dim
(0, 3) 2073 Nas argymhellwyd gennym eisoes yn y dyddiau gynt.
(0, 3) 2074 A hyd yn oed petaem dros dro'n dychwelyd,
(0, 3) 2075 Yn y carchar fyddem ninnau hefyd cyn pen dim,
(0, 3) 2076 Fel llawer gwron arall sydd y funud hon
(0, 3) 2077 Mewn cyffion, am iddynt wrthod plygu glin
(0, 3) 2078 I ormes, ac am feiddio codi llais
(0, 3) 2079 Yn erbyn cydymffurfio gwasaidd eu cyd-wladwyr.
(0, 3) 2080 Pa angen ysbrydoliaeth arall sydd?
(0, 3) 2081 Mae i bob oes ei harwyr.
(0, 3) 2082 Mae tynged Athen, bellach, yn ei dwylo hi ei hun."